Straeon calonogol gan deuluoedd sy’n agor eu drysau i blant mewn gofal dros yr ŵyl.
Gall y
Nadolig fod yn amser anodd i rai teuluoedd, ac yn enwedig ar gyfer plant mewngofal maeth. Gwnaethom ofyn i'n rhieni maeth a gweithwyr cymdeithasol
i rannu eu profiad o faethu dros gyfnod y Nadolig a dyma beth ddywedasant....
“Roedd
gennym fachgen bach gyda ni ar gyfer y Nadolig, ac roeddem wedi prynu castell
lego iddo.
Roedd
wrth ei fodd gydag ef a threuliodd y cyfan o fore Nadolig yn ei adeiladu gyda
fy ngŵr.
Pan
ddaethom yn ôl drwodd i'r lolfa ar ôl ein cinio Nadolig, roedd y castell wedi
mynd. Roedd pob un o'r teganau
wedi mynd.
“Ble
mae’r holl deganau wedi mynd?” gofynnais. Roedd yn edrych yn bryderus. Dywedais “mae’n iawn, dweud wrtha i.” “I fyny'r grisiau”
sibrydodd.
Aethom i
fyny'r grisiau, ac yno yn cuddio yng nghefn ei wely roedd y teganau i gyd. “Byddai mam a dad bob
amser yn eu gwerthu nhw” dywedodd “roeddwn yn eu cadw'n ddiogel.” Cadwodd ei deganau yn ei
ystafell am wythnos cyn dod â nhw yn raddol i lawr y grisiau i chwarae.” Gofalwr
Maeth
“Roedd gennym ferch yn ei harddegau
gyda ni un Nadolig.
Doedd hi erioed wedi cael
llawer o Nadolig adref. Rydym yn wirioneddol fwynhau’r Nadolig felly
gwnaethom ei deffro hi yn y bore a dod a hi i lawr y grisiau at y goeden. Roedd yn rhaid i ni ddangos iddi beth i'w wneud. Roedd hi wrth ei bodd, hyd yn oed gyda dim ond y darnau bach o golur
roeddem wedi eu prynu iddi.” Rhiant Maeth
“Roedd gennym blentyn maeth wedi
cyrraedd ar 23 Rhagfyr ac roedd rhaid i ni ruthro allan a brynu anrhegion yn
gyflym.” Rhiant Maeth
“Rydym yn dal i gadw’r
addurniadau mae rhai o'n plant maeth wedi gwneud, a phan fyddant yn dod yn ôl i
ymweld, maent yn gweld bod yr addurniadau yn dal i fod ar y goeden.” Rhiant Maeth
“Ni allai'r plant gredu bod yr
holl anrhegion iddyn nhw, ac y gallent eu cadw.” Rhiant Maeth
“Roeddem yn wir yn edrych ymlaen
at y Nadolig gyda'n plentyn maeth. Roedd y cyfan wedi
ei gynllunio. Ond roedd wedi llethu gan y cyfan, ac aeth a’i holl anrhegion i fyny a
threuliodd y diwrnod cyfan yn ei ystafell wely.” Rhiant
Maeth
“Y rhan fwyaf o Noswyliau Nadolig, gofynnir i ni i roi
tua 5 o blant mewn gofal maeth ac rydym yn ffonio o gwmpas ein gofalwyr maeth
yn gofyn a ydynt yn gallu gofalu am blentyn dros y Nadolig. Ond yn aml mae’r cynllun yn newid ac nid oes angen gofal maeth ar y plant
wedi'r cyfan, panig drosodd.
Mae ein gofalwyr maeth bob
amser yn wych ac yn gwneud popeth yn ddidrafferth.” Gweithiwr
Cymdeithasol Maethu
“Gwnaethom ofyn i ofalwr maeth a allent ofalu am blentyn
dros y Nadolig. Roedd yn rhaid iddynt ffonio eu teulu yn gyflym a
oedd ar y ffordd i ymweld ar gyfer y Nadolig, i newid eu cynlluniau am nad oedd
lle iddynt.” Gweithiwr Cymdeithasol Maethu
“Gall rhai plant gael y Nadolig yn eithaf anodd. Mae'r drefn gyfan
yn newid. Mae hyd yn oed y drefn ysgol yn
wahanol gydag ymarfer ar gyfer y sioe Nadolig ac ati. Mae'n rhy wahanol ac ychydig yn llethol.” Gweithiwr
Cymdeithasol Maethu
Gall y Nadolig fod
yn gyfnod anodd, ond mae ein gofalwyr maeth gwych yn croesawu plant i'w
cartrefi i rannu cinio Nadolig, agor anrhegion a theimlo fel rhan o'r teulu.





No comments:
Post a Comment
Note: only a member of this blog may post a comment.